Parchu Pentir

Ras Moelyci

Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd y Ras Moelyci cyntaf ar ddydd Sadwrn 3ydd Chwefror ac am y rhoddion hael niferus i’r achos. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol a chodwyd £634.50 i Ysbyty Masanga yn Sierra Leone. Os hoffech dderbyn cylchlythyrau chwe-misol am waith yr elusen yna gallwch gofrestru ar y wefan […]

Ras Moelyci Read More »

Ymweliad i “Y Plot”

Bu grŵp cymunedol ‘Parchu Pentir yn ymweld a ‘Y Plot’ ar ddydd Iau 6ed Gorffennaf. Gyntaf oll, diolch yn fawr iawn i Coryn Bye, sy’n rhedeg Y Plot, am y croeso cynnes ac am roi cymaint o’i hamser yn ogystal â’r lluniaeth blasus, yn enwedig y cwcis sinsir. Gardd gymunedol yw ‘Y Plot’, sy’n darparu

Ymweliad i “Y Plot” Read More »

Menter Tŷ’n Llan

Bu naw aelod o’r Grŵp Gweithredu a’r Grŵp Cymunedol gyfarfod gyda rhai o bwyllgor Menter Tŷ’n Llan i glywed sut mae’r fenter yn datblygu. Fe agoron nhw’r dafarn sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned ym mis Rhagfyr 2021 ac maent wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Eglurodd Carys, Caryl a Bethan sut

Menter Tŷ’n Llan Read More »

Casglu Sbwriel

Mae aelodau grŵp Parchu Pentir yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i godi sbwriel o amgylch ffyrdd Pentir a Rhyd y Groes. Yn ddiweddar, mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi offer newydd sydd bellach wedi cael defnydd ar y ffordd y penwythnos diwethaf. Diolch yn fawr i Tomos am drefnu hyn a Norman o’r cyngor

Casglu Sbwriel Read More »

Tyfu am Newid

Bu grŵp o naw ohonom ymweld â ‘Tyfu am Newid’ am yr ail waith ar yr 18fed o Orffennaf. Cwrddon ni â Paul a Sarah a fu’n ein tywys o amgylch y safle a welson ni’r ‘twneli tyfu’ llawn dop, twneli steil ‘lindys’ yn ogystal â’r mannau ffrwythlon y tu allan. Roedd y twneli tyfu

Tyfu am Newid Read More »

Ras Hwyl 2023

Amseroedd Râs Hŵyl Pentir Diolch o galon i bawb gymeroedd rhan yn Râs Hŵyl Pentir 2023 neithiwr – y rhedwyr ac y gwirfoddolwyr! Dyma’r ddolen ar gyfer y canlyniadau. Dyma ddolen ar gyfer lluniau o Râs Hŵyl Pentir ar y 12fed o Orffennaf. Cymerwyd rhain gan Thomas Owen o thomasowensports. Atgynhyrchwyd trwy garedigrwydd Thomas Owen.

Ras Hwyl 2023 Read More »