Ymweliad i “Y Plot”

Bu grŵp cymunedol ‘Parchu Pentir yn ymweld a ‘Y Plot’ ar ddydd Iau 6ed Gorffennaf.
Gyntaf oll, diolch yn fawr iawn i Coryn Bye, sy’n rhedeg Y Plot, am y croeso cynnes ac am roi cymaint o’i hamser yn ogystal â’r lluniaeth blasus, yn enwedig y cwcis sinsir.
Gardd gymunedol yw ‘Y Plot’, sy’n darparu gofod gwyrdd o harddwch a llonyddwch ger y llwybr beicio yn Nhregarth. Mae Coryn yn anelu iddi fod yn ardal y gall unrhyw un ddod iddi fod hynny er mwyn gorffwys, dod o hyd i ychydig o heddwch neu gymryd rhan mewn ffordd ymarferol. Mae llawer o blanhigion yn ffynnu yno hwn gofod ar gyrion fferm Pandy; Llysiau, ffrwythau, blodau, llwyni a choed. Gwelir ciwcymbrau, tomatos a phupur yn tyfu yn y tŷ gwydr a digonedd o ffa ac aeron y tu allan ymysg y blodau. Does dim cemegau yn cael ei ddefnyddio yno, ac mae’r ardd wedi mabwysiadu agwedd ‘dim cloddio’ (no-dig) ac yn defnyddio haenu o wymon, cardfwrdd, glaswellt wedi’i dorri a gwlân defaid i sicrhau bod y pridd yn llawn maeth. Mae natur yn ffynnu yno a’r holl blanhigion yn amlwg yn hoff iawn o’u lle.

Clywsom gan Coryn am y holl brosiectau diddorol y mae gwahanol bobl wedi cymryd rhan ynddynt ar ‘Y Plot’ gan gynnwys defnyddio pennau blodau ar gyfer lliwio, Calendula ar gyfer gwneud eli, a gwaith coed yn ogystal â’r holl waith garddwriaethol wrth gwrs.
Fe wnaethon ni fwynhau ein hymweliad yn fawr iawn ac wedi dysgu llawer gan Coryn wrth fwynhau’r gofod hyfryd gyda hi. Mae ‘Y Plot’ yn ofod cymunedol, felly ewch draw i dreulio peth amser yno neu alw heibio os yn yr ardal (a chofiwch gau’r giât wrth adael). Mae Coryn yno yn aml ond yn sicr yno ar ddyddiau Iau rhwng 1:30 a 4pm’’