Mae aelodau grŵp Parchu Pentir yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i godi sbwriel o amgylch ffyrdd Pentir a Rhyd y Groes. Yn ddiweddar, mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi offer newydd sydd bellach wedi cael defnydd ar y ffordd y penwythnos diwethaf. Diolch yn fawr i Tomos am drefnu hyn a Norman o’r cyngor am ollwng yr offer draw!