Pwy yw Parchu Pentir Respect?

Flynyddoedd lawer yn ôl daeth trigolion pentrefan Pentir a Rhyd-y-Groes ynghyd a chreu grŵp cymunedol, fel rhan o fenter Trefi Taclus Llywodraeth Cymru. Mae o wedi profi i fod yn ffordd wych o gwrdd â chymdogion a siarad am faterion lleol. Mae’r ffocws ar wella’r amgylchedd lleol trwy, er enghraifft, casglu sbwriel a phlannu blodau. Nod y grŵp yw darparu ar gyfer pob grŵp oedran a gallu. Cynhelir cyfarfodydd yn nhai’r aelodau (ond ddim yn ystod y cyfnod Coronafeirws) yn ystod ail wythnos pob mis am 7.30pm. Mae cyfarfodydd ar agor i holl drigolion Pentir.

Gweithgareddau

Casglu sbwriel, plannu blodau, achub llyffantod, soch rhost, cinio cymunedol awyr agored, Ras Hwyl, sicrhau gostyngiad yn y terfyn cyflymder. Dyma rhai o'n gwethgareddau dros y blynyddoedd. 

Gwasanaethau Lleol

Rydym wedi llunio rhestrau o wasanaethau a busnesau lleol, gan ganolbwyntio ar fusnesau sy'n darparu hanfodion, fel blychau llysiau neu fwydydd eraill, i'w dosbarthu gartref, neu eu casglu gan wirfoddolwyr. 

Coronofeirws

Gall Parchu Pentir helpu'r rhai sy'n hunan-ynysu i gael bwydydd a phresgripsiynau, neu unrhyw gymorth ymarferol arall. Cysylltwch â ni trwy ebost: post@pentir.org.uk neu trwy cymydog sy'n medru cysylltu â ni.

Newyddion Diweddaraf

Tyfu am Newid

Bu grŵp o naw ohonom ymweld â ‘Tyfu am Newid’ am yr ail waith ar yr 18fed o Orffennaf. Cwrddon ni â Paul a Sarah a fu’n ein tywys o...

Darllen Mwy

Menter Tŷ’n Llan

Bu naw aelod o’r Grŵp Gweithredu a’r Grŵp Cymunedol gyfarfod gyda rhai o bwyllgor Menter Tŷ’n Llan i glywed sut mae’r fenter yn datblygu. Fe agoron nhw’r dafarn sy’n cael...

Darllen Mwy

Casglu Sbwriel

Mae aelodau grŵp Parchu Pentir yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i godi sbwriel o amgylch ffyrdd Pentir a Rhyd y Groes. Yn ddiweddar, mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi...

Darllen Mwy

Cyfarfodydd Grŵp PPR

Bydd grŵp Parchu Pentir Respect yn cwrdd unwaith eto pan fydd hi’n ddiogel.

Efallai yr hoffech chi ymuno â’r rhestr e-bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am  ein gweithgareddau. Plîs cysylltwch â ni trwy post@pentir.org.uk