Cyflwyno siec o’r arian a godwyd trwy’r Ras Hwyl i Pobl i Bobl

Cyfarfu Harry, Ken a Wyn â Gareth Griffith o’r elusen cymorth ffoaduriaid leol Pobl i Bobl i gyflwyno siec o £350 i helpu ffoaduriaid o Wcrain. Codwyd yr arian yn sgil y Ras Hwyl lwyddiannus iawn a gynhaliwyd ym Mhentir dros yr haf.

Ar ôl yr ymyrraeth orfodol oherwydd COVID, fe wnaethom drefnu Ras Hwyl Pentir eto ar 5 Gorffennaf. Gan adeiladu ar yr holl waith paratoi y mae Kate Potter wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, cafodd y Ras Hwyl ei hysbysebu eto. Ar ôl dechrau braidd yn araf o bobl yn arwyddo, cawsom 82 o redwyr ar y noson. Dechreuodd y cofrestru mewn da bryd ar sgwâr Pentir, cyn i’r rhedwyr gerdded i’r Maes blodau gwyllt yn Rhyd Y Groes ar gyfer dechrau’r rhediad 4.5 km. Roedd tirfeddianwyr wedi rhoi caniatâd i redeg ar eu tir, roedd y llwybr wedi’i osod yn lliwiau baner yr Wcrain, ac roedd marsialiaid a swyddog cymorth cyntaf yn bresennol i sicrhau rhediad diogel. Roedd gwobrau ar gyfer amrywiaeth o gategorïau oedran ac i ddynion a merched. Roedd y tywydd ar ein hochr ni a chafodd pawb amser da. Rydym eisoes yn cynllunio’r rhediad yn 2023.

Sefydlwyd Pobl i Bobl yn wreiddiol yn sgîl argyfwng y ffoaduriaid a ddatblygodd dros Ewrop yn 2015. Ein nod yw helpu pobl sydd mewn argyfwng drwy ddarparu cymorth a chefnogaeth bersonol, waeth beth fo’u hil, eu crefydd neu eu lleoliad. Mae Pobl i Bobl yn estyn cyfeillgarwch ac undod i unrhyw un sydd mewn angen, ble bynnag y bo.

Mae Pobl i Bobl yn codi arian am dri rheswm yn benodol:
1) Er mwyn talu am gymorth i’w anfon i Wcráin, Syria, Groeg a Ffrainc
2) Er mwyn anfon arian at brosiectau ar lawr gwlad e.e. Refugee Support Europe, Care4Calais, ThereYouGo yn Samos, y rhai sy’n helpu ffoaduriaid yn y gwledydd sy’n ffinio ag Wcráin, pobl ddigartref yn Dunkirk a Calais, canolfannau cymunedol a cheginau bwyd yn y gwersylloedd ffoaduriaid yng ngwlad Groeg ayb
3) I helpu prosiectau ailgartrefu yng ngogledd Cymru.