Bu naw aelod o’r Grŵp Gweithredu a’r Grŵp Cymunedol gyfarfod gyda rhai o bwyllgor Menter Tŷ’n Llan i glywed sut mae’r fenter yn datblygu. Fe agoron nhw’r dafarn sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned ym mis Rhagfyr 2021 ac maent wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Eglurodd Carys, Caryl a Bethan sut roedd y strategaeth cyfranddaliadau cymunedol wedi rhoi sylfaen ariannol gadarn iddynt fel eu bod yn gallu prynu’r dafarn a gwneud gwelliannau brys. Ers hynny maent wedi cael cyllid grant ar gyfer cegin ac yn bellach yn gobeithio uwchraddio ac ehangu’r adeilad a’r tir o’i amgylch.
Diolch yn fawr iawn i Fenter Tŷ’n Llan am ymweliad diddorol ac addysgiadol.