Tyfu am Newid

Bu grŵp o naw ohonom ymweld â ‘Tyfu am Newid’ am yr ail waith ar yr 18fed o Orffennaf.

Cwrddon ni â Paul a Sarah a fu’n ein tywys o amgylch y safle a welson ni’r ‘twneli tyfu’ llawn dop, twneli steil ‘lindys’ yn ogystal â’r mannau ffrwythlon y tu allan.

Roedd y twneli tyfu yn llawn o domatos o bob math, gyda basil, pys a sawl dalen salad gwahanol yn tyfu ar waelod pob rhes. Roedd y twneli lindys yn cynnwys planhigion wy, ciwcymbrau a melonau a thu allan roedd llu o ddail salad a llysiau gwyrdd yn tyfu mewn rhesi taclus yng nghysgod y coed ger llaw.

Gwelsom hefyd lethrau mawr o flodau gwyllt ar hyd ochrau’r glannau lle blannwyd riwbob.

Roedd popeth yn ffynnu (heblaw am y moron wedi’u cnoi gan gwningod) ac roedd pobman yn edrych yn daclus ac yn drefnus iawn.

Unwaith eto cawsom ein plesio a’n hysbrydoli gan y swm enfawr o waith caled sy’n digwydd yma.

Cyflwynwyd rhodd i Paul a Sarah i fynd tuag at eu harian fel arwydd o’n gwerthfawrogiad am roi o’u hamser i ni