Gwasanaethau Lleol

Nwyddau i’r Cartref

Rhestrir isod rai o’r gwasanaethau lleol y gallwch eu defnyddio gyda’n help, os oes angen. Os oes unrhyw wasanaeth yr ydych ei angen nad yw’n cael ei ddarparu gan y cwmnïau a’r darparwyr isod yna peidiwch ag oedi cyn gofyn.

Cwmnïau neu Ddarparwyr Lleol sy'n dosbarthu i gartrefi a / neu trwy gasgliad

Cliciwch ar y penawdau isod i ddatgelu manylion.

Kevin Roberts, Dyn Llefrith
Mae Kevin yn gwerthu llefrith, sudd ffrwythau, iogwrt, bara, a menyn. Os gallwch chi roi archeb reolaidd iddo byddai hynny’n ddelfrydol. Mae’n ymweld â Pentir nos Iau / bore Gwener neu nos Lun / bore Mawrth.
 
Mae’n well cysylltu â Kevin trwy neges destun neu alwad ffôn:
 
07788 620332
 

Taliad gydag arian parod neu siec.

 

Cysylltwch â ni ar post@pentir.org.uk os ydych am weld taflen o’r cynnyrch a gynigir.

M Hughes a'r Meibion

Mae Groser M Hughes & Son yn gwerthu blychau o ffrwythau a llysiau i’w dosbarthu i gartrefi. Er eu bod wedi’u lleoli yn Llandudno, maent yn fodlon dod â nwyddau i Pentir.

Mae blychau ffrwythau, salad a llysiau ar gael:

 

Gwefan Groser M Hughes

Siop Moelyci

Er bod y caffi ar gau, mae’r siop yn dal i fod ar agor, ac yn parhau i gyflenwi bwyd organig iach, a lle bo hynny’n bosibl, o ffynonellau lleol.

Mae Moelyci yn cynnig bag wythnosol o ffrwythau a llysiau am £10. Cymerir archebion ar y rhif isod. Taliad ymlaen llaw gydag arian parod, cardiau credyd neu ddebyd, neu drosglwyddiad banc. Maent yn llunio rhestr newydd o gynhyrchion i weddu i’r sefyllfa bresennol ac yn gwasanaethu’r gymuned leol, a byddant yn rhoi hyn ar eu gwefan a’u Tudalen Facebook. Ar hyn o bryd maent yn gwerthu diodydd poeth, bwydydd a chacennau.

 

Gwefan siop Moelyci

 

Ffoniwch: 01248 602793 am wybodaeth.

Pysgod ar Lein/Fish on Line

Bydd Pysgod Arlein / Fish Online yn gollwng archebion pysgod yn Moelyci bob prynhawn Gwener i’w casglu. Archebwch a thalu dros y ffôn ar 07476 300930 gyda cherdyn credyd neu gadewch arian parod yn Moelyci. Mae rhestr o gynhyrchion ar Dudalen Facebook Pysgod Arlein / Fish Online, hefyd ar wefan Pysgod Arlein / Fish Online.

Morrisons, Tesco, Asda a Waitrose

Mae Morrisons, Asda, Tesco a Waitrose yn gweithredu siopa ar-lein. clicio a chasglu (“Click and Collect”), a dosbarthu nwyddau yn uniongyrchol i’r cartref. 

 

Os byddwch yn trefnu prynu nwyddau trwy clic a chasglu (“Click and Collect”), gallwn drefnu i wirfoddolwr gasglu eich archeb.

Siop Iechyd Dimensions Dru
Siop bwyd iechyd a bwyd organig, Holyhead Road, Bangor 01248 351 562
 
 

Dydd Llun i Ddydd Gwener 10 – 5:30, Dydd Sadwrn 10 – 5

Ar hyn o bryd taliad cerdyn yn unig. Byddant yn dechrau dosbarthu nwyddau i’r cartref yn fuan.

Cigydd a Deli Tredici

Mae Cigydd a Deli Tredici, sydd wedi’u lleoli ym Miwmares, yn cynnig gwasanaeth digyswllt dosbarthu neu gasglu cartref am ddim. Mae eu rhestr brisiau, ar eu cyfrif Facebook, yn rhoi cipolwg ar y cannoedd o gynhyrchion maen nhw’n eu cynnig.


Maent yn dosbarthu i Bentir yn wythnosol, ar Ddydd Gwener. Y tâl cludo yw £3. Yn ddelfrydol dylech chi roi’r archeb cyn 12 y diwrnod blaenorol, ond maen nhw ychydig yn hyblyg ar hyn o bryd ac yn llwyddo i gyflawni unrhyw archebion munud olaf.


Cysylltwch â nhw ar 01248 810651.

Llechwedd Meats

Mae Llechwedd Meats yn gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion cig ac yn cynnig gwasanaeth cludo cartref. Mae dosbarthu am ddim (ar 6ed Ebrill 2020) ar gyfer archebion dros £75, £3 fel arall.

 

Gellir cysylltu â nhw ar: 01248 750 205

Cadwyn Ogwen

Mae prosiect newydd wedi’i sefydlu yn Nyffryn Ogwen i helpu bobl leol i gael cynnyrch wedi eu danfon i’w cartrefi yn ystod argyfwng Covid-19. Bydd hefyd yn cefnogi busnesau lleol a’r gadwyn gyflenwi yn lleol tu hwnt i Covid-19.

 

Gellir gosod archebion ar-lein yn unig. Rhaid gosod archebion cyn hanner nôs Dydd Sul i sicrhau eu bod yn cael eu danfon i chi ar y Dydd Mawrth canlynol. Cost cludiant yw £1 fesul archeb ar-lein i Pentir, gyda danfoniadau gan gerbyd trydan cymunedol. 

Talu am nwyddau

Os ydych chi’n debygol o fod angen unrhyw un o’r gwasanaethau hyn, neu os bydd angen i chi ofyn i wirfoddolwr siopa ar eich rhan, efallai yr hoffech chi ystyried sut rydych chi’n mynd i wneud taliadau. Efallai y bydd rhai pobl yn gallu gwneud taliadau electronig, ond efallai y byddwch hefyd yn ystyried cael cyflenwad o arian parod.

Gwasanaethau Cymunedol

Manylion cyswllt y tîm troseddau gwledig

Os oes gennych unrhyw gonsyrn am troseddau yn y gymuned medrwch gysylltu â: 

 

PCSO Rhys Evans ar 07818 522404  ebost rhys.evans@nthwales.pnn.police.uk 

neu

PC Dewi Evans ar 07827 306179  ebost Dewi.Evans@nthwales.pnn.police.uk

 

Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru

Cadwch mewn Cysylltiad!

Byddwn yn diweddaru’r wefan pan fydd gennym unrhyw wybodaeth ychwanegol. Cofiwch os oes gennych chi awydd i sgwrsio, neu os oes angen presgripsiynau neu gyflenwadau, cysylltwch â ni. Os oes gennych unrhyw syniadau neu wybodaeth ychwanegol, rhowch wybod i ni.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.