Ymweliad â Tyfu am Newid, Moelyci

Aeth criw o Parchu Pentir i ymweld â Siop Moelyci / Caffi a’r fenter drws nesaf, ‘Tyfu am Newid’.

Cyfarfu Sarah â ni a dangosodd eu twneli Poly, twneli lindys a gwelyau wedi eu codi, a rhoddodd y cefndir i’r fenter organig. Roedd hi’n amlwg wedi ymrwymo’n fawr i Tyfu am Newid ac fe gawson ni ein hysbrydoli a’n plesio gan bopeth ddywedodd a dangosodd i ni. Mae’r gwaith enfawr sy’n mynd i brosiect mor drefnus, cynhyrchiol ac esthetig braf yn amlwg. Roedd y planhigion i gyd yn ffynnu ac yn edrych yn iach iawn. Byddwn yn bendant yn prynu eu cynnyrch o Moelyci neu eu stondinau marchnad.

Diolch Sarah a pawb yn Tyfu am Newid.