Byd Natur Lleol

Dolydd Blodau Gwylltion

Mae’r llun yn dangos Sarah Collick o Dîm Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol Cyngor Gwynedd yn gosod planhigion mewn ardal oedd wedi’i hau o’r blaen gyda hadau blodau gwyllt. Mae planhigion y plwg yn bennaf yn gribell felen ond hefyd melyn yr hwyr, ffacbys, meillionen, pig yr ganran a llygad y dydd. Cawson nhw eu dyfrio […]

Dolydd Blodau Gwylltion Read More »

Llyffant / Toad Pentir

Llyffantod yn Mudo!

Mae llyffantod Pentir wedi dechrau mudo eto eleni gan fod y tywydd wedi cynhesi’n ddiweddar. Mae’r arwyddion wedi eu hagor ar hyd y lon trwy Rhyd y Groes a Lôn Rallt, er mwyn rhybuddio gyrwyr. Mae’r mudo yn digwydd yn y nosweithiau pan fydd y tymheredd yn uwch na tua 5 gradd C. Gofynnwn i

Llyffantod yn Mudo! Read More »

cuckoo

Gwyliwch yr adar!

Bu rhai adar newydd yn cyrraedd yr ardal yn 2020. Rydym wedi clywed dwy gog ar Moelyci a Moel Rhiwen dros yr wythnosau diwethaf. Gwelwyd un gog yn cael ei erlid gan aderyn llai, wrth dop y trac sy’n arwain at Mynydd Llandegai. Hefyd mae Gwybedwr Brith a Thelor y Gwair yn y cyffiniau. Gwelwyd

Gwyliwch yr adar! Read More »

buzzard

Gwyliwch yr Aderyn!

Rydym wedi clywed adroddiadau bod y Bwncath lleol wedi ymosod a sawl rhedwr a beiciwr. Mae’n ymddangos bod hyn yn digwydd ar hyd lôn o Bont y Felin i’r is-orsaf trydan. Mae’r Bwncath, sy’n rhywogaeth a warchodir,  efallai yn amddiffyn ei gymer a / rhai ifanc mewn coeden gyfagos. Dim ond yn ystod y cyfnod

Gwyliwch yr Aderyn! Read More »

Llyffant / Toad Pentir

Llyffantod Pentir

Achubwyd dros 800 o lyffantod o’r ffyrdd sy’n arwain at lyn Tal-y-Foel, gan amryw o drigolion Pentir, dros yr wythnosau diwethaf, gyda cymorth John Harold ac eraill o Ganolfan Amgylcheddol Moelyci. Diolch i Andy Williams am y lluniau o rai a achubwyd.  

Llyffantod Pentir Read More »

Llyffantod wedi eu hachub / Rescued Toads

Achub Llyffantod

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ymdrech i achub llyffantod ar y ffordd gefn o Ryd-y-Groes i’r ficerdy. Aeth nifer o grwpiau o bobl yn ystod yr hwyr dros gyfnod o wythnos i gasglu’r llyffantod a’u rhyddhau yn y cae sy’n amgylchynu’r pwll wrth ymyl y ficerdy. Casglwyd a rhyddhawyd o leiaf 150 o

Achub Llyffantod Read More »