Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ymdrech i achub llyffantod ar y ffordd gefn o Ryd-y-Groes i’r ficerdy. Aeth nifer o grwpiau o bobl yn ystod yr hwyr dros gyfnod o wythnos i gasglu’r llyffantod a’u rhyddhau yn y cae sy’n amgylchynu’r pwll wrth ymyl y ficerdy. Casglwyd a rhyddhawyd o leiaf 150 o lyffantod ac ambell i lyffant melyn (broga).