Ar ddydd Sul Gŵyl y Banc gwnaeth 14 o aelodau Parchu Pentir Respect gyfarfod wrth ymyl bythynnod Rhyd-y-Groes i gael gwared â chegiden (“hemlock”) o’r nant. Cliriwyd tua 70 medr, ac aeth Iwan a thua dwy fag adeiladwyr mawr i Foel-y-Ci i’w compostio. Gobeithio y bydd tai’r trigolion lleol yn cadw’n sych o hyn ymlaen. Cafwyd diweddglo braf i’r holl waith gyda the a chacen gan Anwen a Carolien.
Dilynwyd clirio’r nant gan Daith Natur o gwmpas llyn Tan-y-Foel. Adnabuwyd nifer o fathau o adar gan Steve a Linda, gan gynnwys gwyddau “greylag” (dim hwyaid Carolien!), a welir yn hedfan yn un o’r lluniau isod. Darganfuodd y plant benbyliaid, epil y llyffantod a achubwyd yn gynt yn y flwyddyn mae’n siŵr. Ar ôl taith bleserus cafwyd cinio hyfryd gyda chawl cartref a salad yn nhŷ Ken ac Evelyn. Diolch yn fawr iawn! Diweddglo gwych i weithgaredd Parchu Pentir Respect arall.