Mae llyffantod Pentir wedi dechrau mudo eto eleni gan fod y tywydd wedi cynhesi’n ddiweddar.
Mae’r arwyddion wedi eu hagor ar hyd y lon trwy Rhyd y Groes a Lôn Rallt, er mwyn rhybuddio gyrwyr.
Mae’r mudo yn digwydd yn y nosweithiau pan fydd y tymheredd yn uwch na tua 5 gradd C.
Gofynnwn i bawb gymryd gofal i osgoi’r llyffantod pan fyddant ar y lon.
Fydd gwirfoddolwyr ar gael i gasglu’r llyffantod oddi ar y lon a’u symud i’r cae lle fyddant yn magu.
Am fwy o wybodaeth , neu os ydych am helpu, postiwch yma neu ebostiwch post@pentir.org.uk