Achubwyd 242 o lyffantod a 3 broga, o’r ffordd rhwng Rhyd-y-Groes a’r ficerdy, gan nifer o drigolion Pentir o ddydd Mercher 23 Chwefror tan y dydd Llun canlynol. Diolch yn arbennig i Iwan ac Anwen, aeth allan ar sawl noswaith.
Ar ddydd Sul 27 Chwefror aethpwyd ati i gasglu rhagor o sbwriel. Yn ogystal â nifer o fagiau casglwyd amrywiaeth eang o sbwriel, o gwteri ac arwyddion ffyrdd.