Bu rhai adar newydd yn cyrraedd yr ardal yn 2020. Rydym wedi clywed dwy gog ar Moelyci a Moel Rhiwen dros yr wythnosau diwethaf. Gwelwyd un gog yn cael ei erlid gan aderyn llai, wrth dop y trac sy’n arwain at Mynydd Llandegai. Hefyd mae Gwybedwr Brith a Thelor y Gwair yn y cyffiniau. Gwelwyd pâr o Dinwen y Garn yn y fynwent a bu Barcud Coch yn hedfan o amgylch llethrau a chaeau Moelyci.