Cysgodfa Bws Newydd
Cafwyd ymateb syfrdanol o gyflym gan Gyngor Gwynedd i lythyr plant Pentir at y Cyngor Cymuned, yn tynnu sylw at gyflwr truenus y gysgodfa bws. Dyma lun o’r safle newydd – sydd yn nhyb llawer yn welliant sylweddol. Diolch i blant Pentir, y Cyngor Cymuned a Chyngor Gwynedd am eu hymdrechion clodwiw.
Cysgodfa Bws Newydd Read More »