Pwy yw Parchu Pentir?

Mae trigolion Pentir wedi dod at ei gilydd i greu grŵp cymunedol. Mae’r grŵp wedi profi’n ffordd hwylus i gyfarfod cymdogion ac i drafod materion lleol. Mae gennym ffocws ar wella’r ardal leol trwy, er enghraifft, casglu sbwriel a phlannu blodau, ac yn gyffredinol i wneud pethau yn yr awyr agored.

Enghreifftiau o’n gweithgareddau:

Mae’r grŵp yn cynnwys oedolion a phlant gyda’r amcan i fod yn agored i bob ystod oedran a gallu. Rydym yn cyfarfod yn Nhafarn y Faenol ar yr ail ddydd Mercher o bob mis am 7.30 yr hwyr. Mae cyfarfodydd yn agored i holl drigolion Pentir.