Grŵp Plannu

Byddwn yn plannu bylbiau (Cennin Pedr, Clychau’r Gog, Saffrwm y Gwanwyn (crocus) a Lili Wen Fach) ar y llain o laswellt o flaen Hen Gapel (Queen’s Terrace) Rhyd-y-Groes.

Yn ogystal byddwn yn asesu a oes modd plannu wrth ochr y ffordd. Bydd raid i ni ddewis pa barthau i ddechrau arnynt, pwyso a mesur yr oblygiadau diogelwch, a gwneud mesuriadau, er mwyn gwybod faint o fylbiau y mae’n debygol y bydd angen eu plannu.

Hefyd, byddwn yn gwneud arolwg o’r planhigion gwyllt cyfredol (i ffwrdd o’r ffordd fawr), os yw’n bosib, a chasglu hadau i’w hau.