Gobeithio eich bod i gyd yn mwynhau tywydd bendigedig y Pasg.
Neges yw hon i’ch diweddaru mewn perthynas â’r sefyllfa ym Mhentir a’r cyffiniau. Mae mwy ohonoch wedi dod ymlaen i wirfoddoli ac eraill i ailddatgan a phwysleisio eich parodrwydd i helpu. Diolch i chi gyd. Mae’r rheini sy’n hunan ynysu bellach yn cael cymorth, a diolch byth, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw bentrefwyr eraill y mae angen cymorth arnynt am eu bod yn sâl. Os byddwch yn clywed am unigolion eraill yn y pentref sydd angen cymorth ond nad ydynt ar y rhestr bostio hon, rhowch wybod i ni drwy post@pentir.org.uk os gwelwch yn dda.
Mae’r cynghorydd Menna Baines wedi rhoi ychydig o ddiheintydd, menig a bathodynnau gwirfoddoli i ni (diolch Menna). Os yr ydych yn gwirfoddoli ac angen yr eitemau hyn cysylltwch â ni.
Ychwanegwyd gwybodaeth ychwanegol ar y wefan, megis rhifau cyswllt, materion iechyd a lles, a dulliau o gael gafael mewn bwyd a gwasanaethau eraill (pentir.org.uk).
Byddwn yn anfon neges fel y cyfyd yr angen ac os oes gennych wybodaeth y gellid ei chynnwys yn y neges neu ei hychwanegu at y wefan, rhowch wybod i ni.
Cofion gorau
Parchu Pentir Respect