Yn dilyn digwyddiadau llwyddiannus yn y pentref i godi arian, sef y Ras Hwyl a’r cyngerdd yn yr Eglwys, a derbyn nawdd gan gynllun Awards for All, prynwyd a gosodwyd diffibriliwr yn yr hen giosg ffôn cyferbyn a Thafarn y Faenol ym Mhentir.
Ymgymerodd nifer o aelodau’r gymuned a’r gwaith o osod drws newydd, atgyweirio’r golau, a glanhau’r ciosg yn barod gogyfer gosod yr offer, gan Wil o Community Heartbeat Trust (CHT), ar Ddydd Mercher 8fed Tachwedd.
Mi fydd yna sesiwn ymwybyddiaeth yn cael ei redeg gan CHT yn ysgubor Moelyci, i’w gynnal yn Ysgubor Moelyci, Lôn Felin Hen, Tregarth, LL57 4BB, ar Ddydd Mercher 29ain Tachwedd 6yh.
Byddwn yn gweini cawl a bagels rhad ac am ddim, mins peis, gwin mulled a diodydd meddal. Ar ôl lluniaeth bydd y sesiwn yn cychwyn tua 6.45yh.
Croeso i bawb – plant a theuluoedd yn ogystal 🙂 Nid oes rhaid i fynychwyr byw ym Mhentir – bydd yna groeso i unrhyw un efo diddordeb.
Am ymholiadau galwch 07932 159917 neu 07885 542383.