Lluniau o’r Ras Hwyl
Mae hwn yn ddigwyddiad i godi arian tuag at defibrillator CPAD, wedi ei leoli yn y ciosg ffôn cyferbyn a Thafarn y Faenol. Bydd y Ras Hwyl yn digwydd ar Ddydd Mawrth 11 Gorffennaf am 7yh, gyda chofrestri a man rheoli’r ras wrth y dafarn, LL57 4EA.
Mi fydd y Ras Hwyl yn 4.5 cilomedr o hyd, yn dilyn ffyrdd tawel a chaeau, yn cychwyn ger tai teras Hen Gapel, ac yna’n bwrw tuag at Ganolfan Amgylcheddol Moelyci ac yn ôl.
Bydd modd amseri’r ras trwy https://www.racetek-live.co.uk/
Bydd modd cofrestri cyn bo hir. Mi fydd modd cofrestri ar y dydd yn ogystal.
Mae yna groeso i blant, ond bydd angen i blant dan 11 rhedeg gydag oedolyn cyfrifol.
Ffi ras: £6 oedolion, £3 i blant 15 neu iau. Gwobrwyon i blant, pobl ifanc, ac oedolion (sawl categori).
Dilynwch ni ar ein dudalen Facebook page gogyfer y digwyddiad.