Ar ddydd Mercher 3ydd Hydref, Ymunodd nifer o drigolion Pentir mewn taith gerdded fyr i grwydro llwybrau lleol.
Roedd y tywydd yn braf fond braidd yn oeraidd a gwyntog, pan ddechreuodd pedwar ohonom allan o sgwâr Pentir tuag at eglwys St Cedol. Yna mi ymchwilion y fynwent. Mae parth i’r gorllewin o’r eglwys sydd wedi ei balmantu gan gerrig beddau hynafol o’r 17eg a’r 18fed ganrif. Mae’n debyg bod y parth yma yn amlinellu safle hen eglwys sydd, o bosib, yn gysylltiedig â Phlas Pentir. Roedd pawb yn awyddus i gofnodi’r asysgrifiau ar y cerrig ac i ymchwilio i’w hanes. Prosiect da i rywun!
Aethom ymlaen i lawr yr allt i Bont y Felin ac mi fyfyrion am ble roedd lleoliad yr hen felin. Mae yna ddyfrffos amlwg uwchlaw’r bont tros yr afon Cegin, ond dim sôn am unrhyw adfaelion. Mi barheuon tuag at fferm Niwbwrch ac ymlaen ar y llwybr gyferbyn a’r fferm ar hyd ochr cae mawr.
Mae’n debyg y bu’r cae yma, ar un adeg, yn chwarel tywod ac fe’i defnyddiwyd gan yr hen Gyngor Ardal Wledig Ogwen fel safle tirlenwi yn ystod y 1960au a’r ‘70au. Mae’r ffynnon sydd yn tarddu o waelod y cae ac yn llifo i’r Afon Cegin ger y bompren yn lan ac yn glir, ond mi fu yn llygredig oherwydd halogion o’r safle hyd at y ‘90au.
Yn y cae gerllaw mae yna adfeilion a oedd, mae’n debyg, yn hen ffatri wlân – hoffwn ddysgu mwy am y safle yma.
Fe ddilynon ni’r llwybr tros y bompren a’r cae islaw Bryn Glas ac yna i’r gwlypdir coediog ac ymlaen i Lon Fudur. Mae’r lon werdd yma’n troelli heibio hen chwareli tywod Bryn Howel a heibio adfail ag oedd a rhywun yn byw ynddi hyd at y ‘60au. Daeth y Lon a ni i’r briffordd yn Rhyd y Groes ac yn ôl i sgwâr Pentir.
Os oes gan unrhywun mwy o wybodaeth neu sylwadau sydd yn berthnasol i’r daith yma , cysylltwch a iwan.thomas@hotmail.co.uk
Gwelwch mwy o luniau o Lon Fudur ar y dudalen Oriel (dolen ar waelod pob dudalen).