Taith Gerdded ar hyd Lon Llanerch 17 Hydref 2012

Ar ddydd Mercher 17eg Hydref, ymunodd nifer o drigolion Pentir mewn taith gerdded fyr i grwydro llwybrau lleol.

Roedd y tywydd yn braf ond yn oer a gwyntog, pan ddechreuodd pedwar ohonom (yn ogystal â dau gi) o Hen Gapel ac aethom i fyny Lon Llannerch gan ddod allan ger Tŷ Newydd lle archwiliom gwt crwn a adeiladwyd yn yr Oes Haearn, rhyw 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Ystyriwn y byddai hwn efallai yn brosiect ar gyfer y grŵp ac mi gytunwyd y byddai’n dda cysylltu ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd.

Aethom i fyny ar draws y cae gan gasglu ffrwythau rhosyn, ac archwilio madarch, ar y ffordd ac mi gyrhaeddom y rhes o dai haf, a heibio “Bwthyn y Seryddwr” yn y caeau ar y chwith – lle bu i Seryddwr Brenhinol o’r ddeunawfed ganrif, a gafodd ei eni ym Mangor, sefydlu canolfan i archwilio wybren orllewinol.

Yna mi ymunom a’r llwybr sydd yn mynd ar draws Moel y Ci, gan edmygu’r waliau cerrig sych fertigol a adeiladwyd, mae’n debyg, gan garcharorion rhyfel Eidalaidd yn ystod yr ail ryfel byd. Ymhen ychydig ganllath aethom i’r dde ar draws y rhostir tuag at Garreg y Gath ac edrychon i lawr ar safle Plas Pentir, er nad oes llawer o dystiolaeth weledig o’i bresenoldeb.

Wrth agosáu at Garreg y Gath aethom i’r dde ac yn ôl at y rhes o dai haf uwchlaw Tŷ Newydd ac i lawr i Lon Tan y Grisiau. Wedyn yn ôl i lawr yr allt i Ryd y Groes.

Roedd pawb yn gytûn bod ein taith gerdded wedi bod yn ddiddorol iawn ag yn werth chweil.

Os oes gan unrhywun mwy o wybodaeth neu sylwadau sydd yn berthnasol i’r daith yma , cysylltwch a iwan.thomas@hotmail.co.uk.