Byddwn yn ceisio trefnu taith cerdded ar hyd llwybrau lleol Pentir pob rhyw bythefnos, er mwyn rhoi cyfle i ni drafod a nodi ein hanes lleol, a’r bywyd gwyllt a’r natur o’n hamgylch. Mae gan bawb yn ein cymuned wybodaeth a phrofiad cyffredinol a phenodol sydd o ddiddordeb i bawb ac mi allwn ddysgu tipyn ar ein teithiau.
Roedd ein taith gerdded cyntaf ar y 26ain Fedi yn fyr (gan fod y tywydd mor wael) ond yn ddiddorol – i lawr Lon Fudur i’r Afon Cegin ag yn ôl, heibio’r “ffatri” ger Bryn Howel, y chwareli tywod, adfeilion Bryn Howel Bach, darn hynod o dir corsiog, a’r Afon Cegin ei hunan.
[slickr-flickr tag=”Tal-y-Foel”]