Taith Natur, Pentir

Cyfarfu chwech ohonom â’n hesgidiau cerdded a’n dillad glaw ymlaen. Cychwynasom i lawr Lôn Fudur, drwy’r coed, dros y caeau ac ar hyd y llwybrau troed sydd wedi’u ffinio gan wrychoedd toreithiog.

Roedd yn weddol sych dan draed ond yn ysbeidiol yn bwrw glaw man. Clywsom amrywiaeth o adar gan gynnwys y ji-binc, y siff-siaff, y capan penddu, y robin goch, y dryw a’r fronfraith. Roedd y cloddiau’n llawn o Fwstard Garlleg, Pwythlys, Clychau’r Gog, Gludlys, Llysiau’r Forwyn, Perlysieuyn Robert, Cranesbill, Vetch a Bysedd y Cwn oedd newydd flodeuo.

Roedd y daith yn bennaf ar y gwastad tan y grisiau serth i fyny at y llwybr beicio a’r allt i Siop Fferm Moelyci, lle arhosom am luniaeth. Yna dechreuodd y glaw o ddifri ac ni welsom na chlywsom fwy o adar dim ond y clebran swnllyd gan grŵp o fodau dynol gwlyb.