Ar ddydd Mawrth, 26ain o Hydref, rhoddodd Katherine Wills o Active First Aid Training gyflwyniad ardderchog i ni, a’r cyfle i ymarfer, yn y Pafiliwn Criced, Bangor. Fe wnaethon ni ddysgu sut i ymateb pan fydd rhywun yn tagu, yn dangos problemau anadlu (gan gynnwys Asthma), neu yn dioddef o sioc anaffylactig.