Ar fore Dydd Mercher 15fed Fai daeth nifer ohnonom i Hen Gapel i ddechrau ar taith gerdded. Cawsom ein tywys gan Lucy i fyny Lon Rallt mor bell a “Byd y Rhedyn”. Amcan y daith oedd i ddysgu am y planhigion a’r llysiau cyffredin sydd ar gael yn y cloddiau, y gallwn eu fwyta a’u defnyddio i flasu prydau bwyd.
Mae ein gwrychoedd yn llawn planhigion hynod a rhai ohonymt yn flasus iawn! Roedd yn fore diddorol ag addysgiadol dros ben.