Taith Gerdded yng nghyffiniau Rhiwlas

Taith Gerdded Parchu Pentir 19/3/13

Ar ddydd Mercher 19eg Fawrth aeth tri ohonom (y fi, Ken a Lucy) o dy Lucy yn Rhiwlas i archwilio’r llwybrau i fyny’r allt y tu ôl i’r pentre’.

Yn gynta oll cawsom gipolwg ar y “camp” – safle o’r ail ryfel byd sydd yn gasgliad o lwyfannau concrid efo ambell loches tan-ddaear. Mae’n sicr bod rhywun yn gwybod beth yw hanes gwirioneddol y safle yma – mae gennym nifer o fersiynau yn cynnwys gwersyll carcharorion rhyfel, storfa arfau rhyfel neu wersyll dros dro i filwyr Americanaidd.

Aethom i fyny’r allt i’r adfeilion ym Maes Meddygon a allai fod yn hen ysbyty ar gyfer milwyr y rhyfel byd cyntaf. Yma y mae nifer o ffawydd mawr – tirnod y gellir ei weld o filltiroedd o amgylch. Yn y caeau islaw mae yna ddau gasgliad o gerrig enfawr a allai fod yn gromlechau.

Dyma le ymunon ni a Ian – dyn gwybodus lleol sydd wedi cerdded yr ardal yma am flynyddoedd. Aeth a ni oddiar y llwybr i fyny Moel Rhiwen, heibio carreg ac arysgrif yn cofio Jubilee’r Frenhines Fictoria ac ymlaen i’r copa. Roedd yr olygfa tuag at Foel Eilio, Yr Wyddfa ac Elidir Fawr yn syfrdanol.

Bwrw ‘mlaen i’r dwyrain trwy grug Parc Drysgol lle archwilion ni garreg enfawr a oedd wedi ei hollti gan bŵer natur, ac wedyn heibio nifer o lochesau saethu, lle tybiwn y bu’r cracach yn chwythu grugieir allan o’r awyr. Wedi ail-ymuno a’r llwybr aethom heibio Cae’r Gof i ymuno a’r lon islaw Ty’n Llidiart.

Cyn dod yn ôl fewn i bentre’ Rhiwlas ymwelon â hen bentref bychan Pen y Ffridd sydd eisoes yn wag efo awyrgylch arbennig.

Roedd pawb yn gytûn bod ein taith wedi bod yn hynod o ddiddorol – braidd yn hir ond gwefreiddiol.