Ar 6 Mawrth 2011 gosodwyd bocs hyfryd Dave wrth y safle bws ger Tafarn y Faenol. Plannwyd amrywiaeth lydan o flodau hyfryd, a ddewiswyd gan y grŵp garddio.
Ar ôl plannu’r blodau aeth y criw i lawr at Bont Felin i glirio’r teiars a luchiwyd dros y bont i afon Cegin. Casglwyd sbwriel arall ger y bont yn ogystal.