Ar y 4ydd o Fehefin, bu Katherine Wills, o Active First Aid Training , gyflwyno hyfforddiant Cymorth Cyntaf hynod ddiddorol, yng Nghanolfan Amgylcheddol Moelyci. Aeth â ni drwy sut i fynd at rywun sydd angen cymorth cyntaf yn ddiogel a gwneud asesiad o’r claf, os yw’n ymwybodol neu’n anymwybodol. Dangosodd i ni sut i gasglu’r wybodaeth sydd ei angen gan y gwasanaethau brys, a sut i drosglwyddo’ r wybodaeth yn gryno i’r criw ambiwlans neu’r parafeddyg. Er mwyn creu ymarfer realistig, sefydlodd Katherine ddamwain ffug a chyda rhai gwirfoddolwyr parod iawn a ymgymerodd â’u roliau ag arddeliad, fe wnaethon ni roi’r hyn yr oedd hi wedi’i ddysgu i ni ar waith. Cawl cyw iâr a hylif wedi’i flasu â lliw coch arno, ynghyd ag ymddygiad meddw wedi ei action’n gelfydd iawn gan un o’r gwirfoddolwyr.
Rydym yn bwriadu trefnu noson cymorth cyntaf i gŵn gyda Katherine yn ddiweddarach yn y flwyddyn.