Gwirfoddoli yn ystod cyfnod yr afiechyd Coronafeirws

Gyda nifer o bobl yn y gymuned dros 70 oed, neu â chyflyrau iechyd, yn gorfod hunan-ynysu am gyfnod hir, mae cefnogaeth gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda siopa, a phethau eraill, yn amhrisiadwy. Os ydych chi eisiau gwirfoddoli, cysylltwch â ni trwy ein cyfeiriad e-bost post@pentir.org.uk

Rhestrir isod rai o’r tasgau y mae gwirfoddolwyr eisoes wedi’u cyflawni a hefyd y tasgau hynny yr ydym yn rhagweld y bydd eu hangen yn y dyfodol agos.

Canllawiau i Wirfoddolwyr

Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Medrwn Môn a Menter Môn wedi creu canllawiau defnyddiol ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n cynorthwyo pobl yn eu cymunedau. Rydym wedi addasuar ‘r callawiau ar gyfer ein sefyllfa ym Mhentir:

Eich Diogelwch

Dilynwch y canllawiau iechyd cyfredol. Byddwch yn ymwybodol y bydd rhai o’r bobl rydych chi’n eu helpu yn agored i niwed ac y gallen nhw fod yn sâl. Peidiwch â mynd i mewn i eiddo rhywun. Cadwch wahaniad corfforol bob amser ac os ydych chi’n trin unrhyw beth y mae’r person yn ei gyffwrdd, sterileiddiwch neu golchwch eich dwylo cyn cyffwrdd ag unrhyw beth arall. Gadewch nwyddau ar stepen y drws, a gosodwch unrhyw beth a roddir i chi, gan gynnwys arian, mewn bag plastig glân.

Trafnidiaeth

Gwiriwch fod eich yswiriant car mewn trefn a’ch bod yn cael eich gwarchod am waith gwirfoddol.  Mae polisïau yn amrywio.

Cwmpas y Gwaith

Y tu hwnt i’r gofynion amlwg a cherdded cŵn, ni allwn ragweld beth fydd gwirfoddolwyr yn debygol o ofyn i’w wneud. Defnyddiwch eich disgresiwn a chofiwch, os yw’r cais yn ymddangos yn afresymol, yn anniogel, neu’n ormod, mae iawn i chi wrthod.

Gofal gyda pres

Cymerwch ofal i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth gydag arian y person yr ydych yn ei gynorthwyo.

 

Mae arfer da yn awgrymu y dylai’r rhai sy’n siopa ddogfennu’r broses o drin arian yn glir, gan sicrhau bod derbynebau ar gyfer nwyddau a brynir yn cael eu darparu.

Gweithgareddau Gwirfoddolwyr

Casglu Bwydydd

Mae bwydydd eisoes wedi’u casglu ar ran pobl sy’n hunan-ynysu, trwy wasanaeth Clicio a Chasglu Tesco. Mae’r gwasanaeth wedi’i sefydlu i leihau cyswllt rhwng staff Tesco ac aelodau’r cyhoedd. Bydd angen i chi ddangos allbrint o’r nwyddau a archebwyd, ac efallai y gofynnir ichi ddangos y cerdyn talu a ddefnyddir i wneud y pryniant. Mae nwyddau’n cael eu gadael mewn cratiau i chi eu pacio yn eich bagiau eich hun. Mae staff yn cadw pellter diogel cyn belled ag y bo modd.

Casglu Parseli i'w Postio

Os oes angen i bobl bostio parseli neu eitemau mawr, trwy Swyddfa’r Post, neu wasanaethau dosbarthu eraill, fel Hermes, yna efallai y bydd gwirfoddolwyr yn gallu helpu i gasglu’r parseli a’u gollwng mewn mannau casglu i’w hanfon ymlaen.

Casglu Presgripsiynau

Efallai na fydd fferyllfeydd lleol yn cynnig gwasanaeth dosbarthu i gartrefi, ac os felly bydd angen gwirfoddolwyr i gasglu presgripsiynau.

Bod ar gael ar gyfer sgwrsio o bell

Efallai y bydd pobl sy’n hunan-ynysu am gyfnodau hir yn croesawu’r cyfle i gael sgwrs ar y ffôn neu dros y rhyngrwyd, trwy Skype, Facetime, Google Hangouts.

Cerdded Cŵn

Byddai angen ymgorffori hyn yn eich trefn ymarfer corff unwaith y dydd.