Llyfrgelloedd Bangor a Caernarfon yn ail-agor

Mae llyfgelloedd Bangor a Caernarfon wedi ail-agor ers Gorffennaf 1af. 

Mae yna wasanaeth casglu (ond mae angen i chi archebu llyfrau o flaen llaw). Bydd y llyfrgell wedyn yn cysylltu gyda’r defnyddwyr pan fydd y llyfrau yn barod i’w casglu, a threfnu amser ar gyfer gwneud hynny.

Mae yna wasanaeth cludo llyfrau yn uniongyrchol i’r tŷ yn ogystal. Mae’n debyg y dylai defnyddiwyr cyfredol y gwasanaeth Llyfrgell Cartref glywed yn uniongyrchol am hyn.

Am wybodaeth bellach cliciwch ar y ddolen hon.