Cefnogi chi yn ystod yr afiechyd Coronafeirws
Os ydych chi dros 70 oed, neu os oes gennych gyflwr iechyd sy’n golygu bod angen i chi hunan-ynysu, yna gall gwirfoddolwyr o Pentir a’r cyffiniau eich helpu chi i cael gafael ar nwyddau sylfaenol. Os oes angen help arnoch ar unrhyw ffurf, cysylltwch â ni trwy ein cyfeiriad e-bost: post@pentir.org.uk
Ar y dudalen Gwasanaethau Lleol fe welwch restr o rai o’r gwasanaethau yr ydym yn credu y gallwch eu defnyddio ar hyn o bryd, gyda’n help os oes angen.
Os oes unrhyw beth yr ydych ei angen nad ydym wedi’i restru, peidiwch ag oedi cyn gofyn.
Sylwch y bydd eich enw a’ch rhif ffôn yn cael eu trosglwyddo i’r gwirfoddolwr a neilltuwyd i’ch helpu chi yn unig.
Ffyrdd y medrwn eich helpu
Prynu neu Gasglu Bwydydd
Os oes angen i chi brynu unrhyw hanfodion neu eu casglu o archfarchnad, groser, fferyllfa neu siop anifeiliaid anwes gyfagos, cysylltwch â ni trwy post@pentir.org.uk
Casglu Presgripsiynau
Os oes angen i chi gael presgripsiwn, neu nwyddau eraill, wedi'u casglu o fferyllfa leol, yna cysylltwch â ni trwy post@pentir.org.uk
Casglu Parseli
Os oes angen dosbarthu parsel arnoch, gallwn fynd ag ef i Swyddfa'r Post neu asiant post arall (e.e. Hermes ParcelShops), i'w ddanfon ymlaen. Gallwn hefyd gasglu parseli.
Cerdded Cŵn
Os na allwch fynd allan i gerdded eich ci, yna cysylltwch â ni, a gallwn drefnu bod gwirfoddolwr yn mynd â'ch ci fel rhan o'u trefn ymarfer corff bob dydd a ganiateir.
Cadwch mewn Cysylltiad!
Os ydych chi ddim ond awydd sgwrs, p’un ai dros y ffôn, neu drwy feddalwedd fideo fel Skype, gallwn drefnu i rywun gysylltu.
Os oes gennych unrhyw syniadau neu wybodaeth ychwanegol, rhowch wybod i ni.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!