Cefnogi ein gilydd trwy Coronafeirws

Er mwyn helpu ein gilydd yn ystod yr wythnosau neu’r misoedd nesaf, rydym yn sefydlu system yn y pentref (sef sgwâr y pentref cyfagos i’r dafarn, Rhyd y Groes, a’r cyffiniau) lle gall pobl gynnig a gofyn am help. Efallai y bydd angen i rai ohonom hunan-ynysu, ac o ganlyniad efallai y bydd angen help arnom gyda chael gafael ar fwyd neu feddyginiaeth, neu er mwyn cadw mewn cysylltiad.

Sut y Medrwn eich helpu

Gall Parchu Pentir helpu'r rhai sy'n hunan-ynysu i gael bwydydd a phresgripsiynau, neu unrhyw gymorth ymarferol arall. Cysylltwch â ni trwy e-bost: post@pentir.org.uk

Gwasanaethau Lleol

Rydym wedi llunio rhestr o wasanaethau lleol sy'n darparu hanfodion, fel blychau llysiau neu fwydydd eraill, i'w dosbarthu gartref, neu eu casglu gan wirfoddolwyr.

Gwirfoddoli

Mae ein grŵp o wirfoddolwyr yn cefnogi pobl sy'n hunan-ynysu, mewn sawl ffordd. Os hoffech wirfoddoli i'r grŵp cymorth, cysylltwch â ni trwy post@pentir.org.uk

Newyddion Diweddaraf

Ddim yn Ebostio?

Dim problem. Os nad ydych yn e-bostio ac yn rhagweld y bydd angen help arnoch yn ystod yr wythnosau nesaf, gofynnwch i un o’ch cymdogion drosglwyddo’ch manylion i ni. Byddwn yn cysylltu â chi, ac yn gadael i chi gael rhif ffôn cyswllt uniongyrchol. Efallai y byddai’n syniad cyfnewid rhifau ffôn gyda chymydog rwân.

Cyfarfodydd Grŵp PPR

Nid yw grŵp Parchu Pentir Respect yn cyfarfod yn ystod y cyfnod coronafeirws.

Efallai yr hoffech chi ymuno â’r rhestr e-bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf yr ydym wedi’i chasglu gan fusnesau lleol bach a mawr sy’n cynnig eu gwasanaethau.

Ymbellhau Cymdeithasol

Mae yna bobl yn y pentref sy’n hunan-ynysig. Er y byddant gartref am lawer o’r amser, byddant yn cael ymarfer corff ac awyr iach wrth gerdded o amgylch y pentref. Mae’n bwysig cofio cadw pellter priodol (o leiaf 2 fetr yw’r pellter a argymhellir) pan fyddwn yn cwrdd a pheidio â synnu os nad yw ein cymdogion cyfeillgar iawn fel arfer yn stopio a sgwrsio. Gallwn sgwrsio dros y ffôn!

Ddim yn byw yn Pentir?

Er bod y gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gefnogi trigolion pentref Pentir, os ydych yn byw ymhellach i ffwrdd, yng nghyffiniau Bangor, efallai yr hoffech gysylltu â’r cydlynwyr i wirfoddolwyr ar gyfer Bangor a chymunedau cyfagos.

Rhiwlas

Y cydlynydd i Rhiwlas yw Menna Jones. Medrwch gysylltu â hi ar:  01248 351066