Soch Rhost 2011
Lluniau o’r noson… Cyflwyno siec i Apêl Tŷ Gobaith.
Achubwyd 242 o lyffantod a 3 broga, o’r ffordd rhwng Rhyd-y-Groes a’r ficerdy, gan nifer o drigolion Pentir o ddydd Mercher 23 Chwefror tan y dydd Llun canlynol. Diolch yn arbennig i Iwan ac Anwen, aeth allan ar sawl noswaith. Ar ddydd Sul 27 Chwefror aethpwyd ati i gasglu rhagor o sbwriel. Yn ogystal â
Achub Llyffantod a chasglu sbwriel Read More »
Ar 6 Mawrth 2011 gosodwyd bocs hyfryd Dave wrth y safle bws ger Tafarn y Faenol. Plannwyd amrywiaeth lydan o flodau hyfryd, a ddewiswyd gan y grŵp garddio. Ar ôl plannu’r blodau aeth y criw i lawr at Bont Felin i glirio’r teiars a luchiwyd dros y bont i afon Cegin. Casglwyd sbwriel arall ger
Plannu blodau mewn bocs a clirio tipio anghyfreithlon Read More »
Ar ôl gorfod gohirio casglu Clychau’r Gog am wythnos, daethom at ein gilydd ar ddiwrnod godidog, yn un o ardaloedd hyfrytaf Cymru, uwchlaw Llanberis, ar ddydd Sul 10fed Hydref. Roedd yna 5 oedolyn a 4 plentyn yn y criw, ynghyd a Vera Bluebell, un o’r ychydig o bobl ym Mhrydain gyda’r hawl i gasglu bylbiau
Casglu bylbiau a hadau Clychau’r Gog uwchlaw Llanberis Read More »
Cafwyd ymateb syfrdanol o gyflym gan Gyngor Gwynedd i lythyr plant Pentir at y Cyngor Cymuned, yn tynnu sylw at gyflwr truenus y gysgodfa bws. Dyma lun o’r safle newydd – sydd yn nhyb llawer yn welliant sylweddol. Diolch i blant Pentir, y Cyngor Cymuned a Chyngor Gwynedd am eu hymdrechion clodwiw.
Cysgodfa Bws Newydd Read More »
Byddwn yn plannu bylbiau (Cennin Pedr, Clychau’r Gog, Saffrwm y Gwanwyn (crocus) a Lili Wen Fach) ar y llain o laswellt o flaen Hen Gapel (Queen’s Terrace) Rhyd-y-Groes. Yn ogystal byddwn yn asesu a oes modd plannu wrth ochr y ffordd. Bydd raid i ni ddewis pa barthau i ddechrau arnynt, pwyso a mesur yr
Mae trigolion Pentir wedi dod at ei gilydd i greu grŵp cymunedol. Mae’r grŵp wedi profi’n ffordd hwylus i gyfarfod cymdogion ac i drafod materion lleol. Mae gennym ffocws ar wella’r ardal leol trwy, er enghraifft, casglu sbwriel a phlannu blodau, ac yn gyffredinol i wneud pethau yn yr awyr agored. Enghreifftiau o’n gweithgareddau: Mae’r
Pwy yw Parchu Pentir? Read More »