Pwy yw Parchu Pentir Respect?

Flynyddoedd lawer yn ôl daeth trigolion pentrefan Pentir a Rhyd-y-Groes ynghyd a chreu grŵp cymunedol, fel rhan o fenter Trefi Taclus Llywodraeth Cymru. Mae o wedi profi i fod yn ffordd wych o gwrdd â chymdogion a siarad am faterion lleol. Mae’r ffocws ar wella’r amgylchedd lleol trwy, er enghraifft, casglu sbwriel a phlannu blodau. Nod y grŵp yw darparu ar gyfer pob grŵp oedran a gallu.

Cynhelir cyfarfodydd yn nhai’r aelodau yn ystod ail wythnos pob mis am 7.30pm. Mae’r cyfarfodydd ar agor i holl drigolion Pentir.

Gweithgareddau

 

Casglu sbwriel, plannu blodau, achub llyffantod, soch rhost, cinio cymunedol awyr agored, Ras Hwyl, sicrhau gostyngiad yn y terfyn cyflymder. Dyma rhai o'n gwethgareddau dros y blynyddoedd. 

Gwasanaethau Lleol

 

Rydym wedi llunio rhestrau o wasanaethau a busnesau lleol, gan ganolbwyntio ar fusnesau sy'n darparu hanfodion, fel blychau llysiau neu fwydydd eraill, i'w dosbarthu gartref, neu eu casglu gan wirfoddolwyr. 

Newyddion Diweddaraf

Ras Moelyci

Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd y Ras Moelyci cyntaf ar ddydd Sadwrn 3ydd Chwefror ac am y rhoddion hael niferus i’r achos. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant...

Darllen Mwy

Coeden Nadolig

Diolch yn fawr i’r Cyngor Cymuned am osod coeden Nadolig ym Mhentir ger gyffordd y dafarn. Hyfryd!  

Darllen Mwy

Ymweliad i “Y Plot”

Bu grŵp cymunedol ‘Parchu Pentir yn ymweld a ‘Y Plot’ ar ddydd Iau 6ed Gorffennaf. Gyntaf oll, diolch yn fawr iawn i Coryn Bye, sy’n rhedeg Y Plot, am y...

Darllen Mwy

Cyfarfodydd Grŵp PPR

Mae grŵp Parchu Pentir Respect yn cwrdd yn fisol, yn nhai y gwirfoddolwyr, yn ystod ail wythnos pob mis, am 7.30pm. Mae’r cyfarfodydd ar agor i holl drigolion Pentir.

Efallai yr hoffech chi ymuno â’r rhestr e-bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am  ein gweithgareddau. Plîs cysylltwch â ni trwy post@pentir.org.uk