Taith Gerdded ar hyd Lon Rallt

Ar fore dydd Mawrth gwlyb (13eg Dachwedd) aeth tri ohonom ag un ci o Ryd y Groes, heibio’r Ficerdy ac i fyny Lon Rallt. Ar ôl ymuno a Lon Sling (Clwt Rhywiog), arhosom i edrych ar y cytiau crwn o’r Oes Haearn yn y cae i’r Gorllewin. Yna ymlaen i Garreg Fedwen, lle y bu’r feithrinfa goed rhedyn. Mae rhai o’r planhigion yna o hyd, sydd yn creu awyrgylch cyntefig. Mae’r llwybr o hyn ymlaen yn wlyb a lleidiog, ond mi aethom ymlaen i’r goedwig, gan gymryd llwybr tawel drwy’r coed i ymuno a’r llwybr sy’n mynd o amgylch Moel y Ci.Ar ôl seibiant byr, aethom ymlaen tuag at Riwlas, gan droi’n sydyn i’r dde ar hyd y llwybr tuag at Rallt Uchaf i ymuno unwaith eto efo Lon Rallt. Y tu ôl i fwthyn hyfryd Rallt mae yna dalwrn, lle mae’n debyg bu’r chwarelwyr a’r gweithwyr amaethyddol gynt o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (ag efallai’n gynharach) yn ymladd eu ceiliogod. Yna ymlaen i lawr yr allt, heibio Rallt Isaf ac yn ôl i Ryd y Groes.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu gywiriadau am yr eitemau o ddiddordeb yma, rhowch wybod i ni.