Casglu bylbiau a hadau Clychau’r Gog uwchlaw Llanberis

Ar ôl gorfod gohirio casglu Clychau’r Gog am wythnos, daethom at ein gilydd ar ddiwrnod godidog, yn un o ardaloedd hyfrytaf Cymru, uwchlaw Llanberis, ar ddydd Sul 10fed Hydref.

Roedd yna 5 oedolyn a 4 plentyn yn y criw, ynghyd a Vera Bluebell, un o’r ychydig o bobl ym Mhrydain gyda’r hawl i gasglu bylbiau a hadau Clychau’r Gog.

Wrth i rai cloddio am y bylbiau (y gwaith caled), bu’r lleill yn casglu’r hadau (ffordd dda i ymlacio a myfyrio). Cawsom ginio gyda’n gilydd, a dangosodd Vera i ni sut mae gwahanu’r hedion o’r hadau.

Gobeithiwn ddychwelyd yr haf nesaf.